RHAN 1HYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU

1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad

(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—

(a)ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;

(b)wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);

(c)wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);

(d)yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—

(a)Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;

(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;

(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;

(d)unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn Deddf Cynulliad.

2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—

(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;

(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);

(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;

(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—

(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu

(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.

(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—

(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;

(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.