RHAN 1HYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU

1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad

1

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.

2

Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—

a

ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;

b

wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);

c

wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);

d

yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.

3

Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—

a

Deddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;

b

is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddfau’r Cynulliad a Mesurau’r Cynulliad;

c

unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;

d

unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn Deddf Cynulliad.

2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

1

Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

2

Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

3

Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—

a

cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;

b

cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);

c

hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;

d

hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

4

Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—

a

y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu

b

o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.

5

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

6

Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

7

Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.

8

Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—

a

mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;

b

trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.