Adran 16 – Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym
95.Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 16 yn darparu y caniateir arfer pwerau a dyletswyddau o dan ddarpariaethau Deddfau’r Cynulliad ac is-offerynnau Cymreig cyn i’r darpariaethau hynny ddod i rym. Yn rhinwedd is-adran (1)(a), mae’r adran yn gymwys i ddarpariaethau Deddfau’r Cynulliad os deuant i rym ar adeg a bennir yn y Ddeddf ac sy’n fwy nag un diwrnod ar ôl diwrnod y Cydsyniad Brenhinol (ond nid yw’n gymwys i ddarpariaethau a ddaw i rym yn gynt neu a ddygir i rym drwy orchymyn neu reoliadau).
96.Mae adran 16(3) yn nodi’r dibenion y caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd atynt cyn i’r ddarpariaeth berthnasol ddod i rym.
97.Mae adran 16(4) yn caniatáu ar gyfer dibynnu ar ddarpariaethau eraill yn y Ddeddf neu’r is-offeryn Cymreig nad ydynt mewn grym ond sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd neu’n atodol i’r ddarpariaeth honno.
98.Mae adran 16(5) yn ei gwneud yn glir bod unrhyw gyfyngiadau neu amodau a fyddai’n gymwys i arfer y pŵer neu gyflawni’r ddyletswydd pe bai’r Ddeddf neu’r offeryn mewn grym yn llawn hefyd yn gymwys pan gaiff y pŵer neu’r ddyletswydd ei arfer neu ei harfer gan ddibynnu ar adran 16.
99.Mae adran 16 yn cael effaith ac eithrio i’r graddau y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb neu y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
100.Mae’r adran hon yn cyfateb i adran 13 o Ddeddf 1978, ond mae’n cynnwys nifer o wahaniaethau y bwriedir iddynt egluro ei chwmpas. Yn benodol, nid yw adran 16 yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd i’w ddwyn neu ei dwyn i rym drwy orchymyn neu reoliadau; mae’n ei gwneud yn glir yn union pryd y mae’n galluogi i’r pŵer neu’r ddyletswydd gael ei arfer neu ei harfer; ac mae’n darparu bod y pŵer neu’r ddyletswydd i’w arfer neu i’w harfer yn yr un ffordd â phe bai’r darpariaethau sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd mewn grym.
101.Bydd adran 13 o Ddeddf 1978 yn parhau i fod yn gymwys i bwerau a roddir ac i ddyletswyddau a osodir gan Ddeddfau’r Cynulliad a gaiff y Cydsyniad Brenhinol cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, a chan is-ddeddfwriaeth a wneir cyn hynny.