Nodyn Esboniadol

Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

4

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1: Hygyrchedd Cyfraith Cymru

Adran 1 – Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad

10.Er mwyn llywio’r broses o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, mae adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog y Gyfraith ar gyfer Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cymru, a benodir gan Ei Mawrhydi ar argymhelliad y Prif Weinidog o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

11.Mae’r ddyletswydd yn adran 1(1) yn debyg i’r rhwymedigaeth ar Gomisiwn y Gyfraith i gadw’r gyfraith o dan adolygiad o dan adran 3(1) o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965(2) a bwriedir iddi ategu’r rhwymedigaeth honno (yn hytrach na’i disodli). Mae’n ei gwneud yn ofynnol canolbwyntio ar y gyfraith ar y cyd, boed hynny y gyfraith ar bwnc penodol neu’r llyfr statud yn ei gyfanrwydd. Mae hefyd yn golygu y bydd rhwymedigaeth y Cwnsler Cyffredinol i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad yn berthnasol pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried pa un ai i gynnig deddfwriaeth newydd. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, dylid ystyried sut y gallai’r dull o fynd ati i ddeddfu effeithio ar hygyrchedd y gyfraith. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y byddai rhaid i Weinidogion Cymru ddeddfu mewn ffordd benodol mewn unrhyw achos unigol.

12.Yn ôl y diffiniad yn adran 1(2), mae pedair elfen i “hygyrchedd” cyfraith Cymru.

13.Yr elfen gyntaf yw’r graddau y mae cyfraith Cymru ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw’r gyfraith yn hygyrch os nad yw’r sawl y gall y gyfraith effeithio arnynt gael hyd iddi a’i gweld. Y brif ffordd o gyflawni hyn yw cyhoeddi deddfwriaeth ar lein yn y ddwy iaith, fel bod modd ei darllen yn rhad ac am ddim.

14.Yr ail elfen yw’r graddau y mae’r gyfraith yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith. Yn ymarferol mae hygyrchedd yn gofyn am fwy na sicrhau bod pob darn o ddeddfwriaeth ar gael; mae’n gofyn iddi fod ar gael ar ffurf sy’n galluogi pobl i weld ei heffaith gyfredol. Mae hyn yn cynnwys nodi a yw darpariaethau mewn grym a dangos unrhyw ddiwygiadau sydd wedi eu gwneud i ddeddfwriaeth gan ddeddfwriaeth arall sydd wedi ei gwneud neu wedi dod i rym wedyn.

15.Y drydedd elfen yw’r graddau y mae cyfraith Cymru wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol. I’r gyfraith fod yn wirioneddol hygyrch, dylid ei threfnu fel ei bod mor hawdd ag sy’n ymarferol i bobl gael hyd i’r gyfraith sy’n berthnasol iddynt hwy a gweld a deall sut y mae deddfiadau yn perthyn i’w gilydd. Felly, dylai strwythur deddfwriaeth fod yn glir, yn gyson ac yn gydlynol; a hynny o fewn deddfiadau unigol yn ogystal ag ar draws deddfiadau ar bynciau penodol a’r llyfr statud yn gyfan.

16.Yr elfen olaf yw’r graddau y mae’r gyfraith yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith. Mae hyn yn cynnwys y graddau y mae’r gyfraith wedi ei llunio’n glir ac yn fanwl gywir, gan na fydd yn hygyrch os yw’r iaith yn ddianghenraid o gymhleth neu astrus. Mae hyn hefyd yn cynnwys argaeledd deunydd esboniadol neu sylwebaeth arall sy’n gallu helpu pobl i ddeall y gyfraith.

17.Diffinnir “cyfraith Cymru” yn adran 1(3) i olygu:

a.

Deddfau a Mesurau’r Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth a wneir odanynt (mewn geiriau eraill, yr holl ddeddfwriaeth a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu o dan ei awdurdod),

b.

is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu’r hen Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru (mewn geiriau eraill, unrhyw ddeddfwriaeth arall a wneir gan y llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru), ac

c.

unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol arall i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gallai Deddf Cynulliad wneud darpariaeth ar ei gyfer (mewn geiriau eraill, deddfwriaeth arall neu reolau eraill y gyfraith gyffredin a allai gael eu diwygio neu eu hailddeddfu gan y Cynulliad Cenedlaethol).

18.Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf yn cynnwys diffiniadau o amrywiol dermau a ddefnyddir yn adran 1(3), gan gynnwys “Cymru”, “deddfiad” ac “is-ddeddfwriaeth”.

Adran 2 – Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru

19.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen weithredu sydd wedi ei chynllunio i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gyfer pob un o dymhorau’r Cynulliad sy’n dechrau ar ôl i’r adran ddod i rym. Ystyr un o dymhorau’r Cynulliad yw’r cyfnod o ffurfio Cynulliad ar ôl etholiad cyffredinol yng Nghymru hyd at ei ddiddymu cyn yr etholiad cyffredinol dilynol.

20.Er mai mater i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol fydd penderfynu ar gynnwys penodol rhaglen, mae adran 2(3) yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhaglen wneud darpariaeth ar gyfer mesurau y bwriedir iddynt gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith wedi ei chodeiddio, hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

21.Mae cydgrynhoi’r gyfraith yn gyffredinol yn golygu dod â’r holl ddeddfwriaeth ar bwnc penodol ynghyd, ymgorffori’n well ddiwygiadau sydd wedi eu gwneud i ddeddfwriaeth ar ôl iddi gael ei deddfu a moderneiddio’r iaith, yr arddull ddrafftio a’r strwythur. Dim ond mân ddiwygiadau, os oes unrhyw ddiwygiadau o gwbl, y mae hyn yn eu golygu i sylwedd y gyfraith a gydgrynhoir. Yng Nghymru, bydd cydgrynhoi’r gyfraith yn golygu gan amlaf ailddeddfu cyfreithiau a wnaed gan Senedd y Deyrnas Unedig yn flaenorol, a gwneud hyn yn ddwyieithog.

22.Mae adran 2(8) yn darparu bod y cyfeiriadau at godeiddio cyfraith Cymru yn adran 2(3) yn cynnwys mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd, a threfnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

23.Mae’r diffiniad yn ei gwneud yn glir y bwriedir i godeiddio’r gyfraith ddod â threfn i’r llyfr statud. Mae hyn yn golygu trefnu a chyhoeddi’r gyfraith drwy gyfeirio at ei chynnwys (yn hytrach na dim ond pryd y’i gwnaed), a chynnal system y mae’r gyfraith honno yn cadw ei strwythur odani, yn hytrach nag amlhau. Yn gyffredinol, byddai “Cod” o gyfraith Cymru yn cael ei gyhoeddi unwaith bod peth o’r ddeddfwriaeth sylfaenol neu’r holl ddeddfwriaeth sylfaenol ar bwnc penodol (gan ystyried cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol) wedi ei chydgrynhoi, neu wedi ei chreu o’r newydd ar ôl ei diwygio’n helaeth. Fel arfer, dylai proses o resymoli is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol ddigwydd ar y cyd â hyn. Byddai’r hierarchaeth bresennol o fewn offerynnau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, a chanllawiau neu ddogfennau tebyg eraill a wneir o dan y Deddfau neu’r is-ddeddfwriaeth), a’r ffiniau rhyngddynt, yn parhau. Bydd yr holl ddeddfwriaeth o fewn Cod yn cael ei gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

24.Felly, nid un offeryn deddfwriaethol fyddai Cod (yn gyffredinol) ond yn hytrach gasgliad o ddeddfiadau o dan un enw cyffredinol sy’n eu dwyn ynghyd. Byddai’r deddfiadau hynny sy’n rhan o’r Cod ar unrhyw bwnc penodol yn cael eu rhoi ar gael gyda’i gilydd. Yn yr un modd, bydd y deddfiadau hyn yn parhau i fod yn gyfrwng i’r gyfraith gael ei mynegi’n ffurfiol drwyddo. Ni fwriedir i’r Cod fod yn offeryn cyfreithiol ynddo’i hun ond yn hytrach yn ddull o goladu a chyhoeddi’r gyfraith yn fwy effeithiol.

25.Ystyr cyfeiriadau yn adran 2(3) at “codeiddio” y gyfraith, yn gyffredinol, yw codeiddio cyfraith statud (deddfwriaeth). Er y gallai Bil sy’n codeiddio cyfraith statud ymgorffori effaith cyfraith achosion ar ystyr y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chydgrynhoi a’i chodeiddio, neu reolau’r gyfraith gyffredin sy’n gysylltiedig yn agos â’r ddeddfwriaeth honno, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu codeiddio’r gyfraith gyffredin yn helaeth.

26.Mae adran 2(3) yn darparu bod rhaid i bob rhaglen hefyd gynnwys cynigion i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys codi ymwybyddiaeth o newidiadau sylweddol yn y gyfraith neu o fodolaeth cyfraith Cymru yn fwy cyffredinol.

27.Mae adran 2(3) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhaglen gynnwys gweithgareddau y bwriedir iddynt hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Bwriedir i hyn gynnwys hwyluso’r iaith yn y gyfraith, mewn gweinyddiaeth gyhoeddus ac yn fwy cyffredinol. Agwedd allweddol ar hyn fydd cydgrynhoi’r gyfraith yn ddwyieithog fel bod llawer mwy o’r gyfraith y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani yn cael ei gwneud yn Gymraeg. Yn yr un modd, bydd gwella trefniadau cyhoeddi a darparu mwy o sylwebaeth ar y gyfraith yn y ddwy iaith yn ei gwneud yn haws defnyddio’r Gymraeg yn y gyfraith ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol yng Nghymru. Gallai prosiectau eraill mewn rhaglen yn y dyfodol gynnwys rhoi mwy o eirfâu ar gyfer deddfwriaeth ar gael a mentrau eraill i ddatblygu terminoleg y cytunwyd arni pan fo hyn yn ddefnyddiol.

28.Mae adran 2(5) yn ei gwneud yn ofynnol i raglen gael ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwe mis i benodi’r Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol. Bwriedir i hyn sicrhau y gall pob llywodraeth gael ei dal yn atebol am yr hyn y mae ei rhaglen yn ei gyflawni yn ystod un o dymhorau’r Cynulliad.

29.Er nad yw’n ofynnol i lywodraeth newydd etifeddu rhaglen y llywodraeth flaenorol ar ddechrau un o dymhorau’r Cynulliad, yn ymarferol mae bron yn sicr y bydd prosiectau sy’n rhan o un rhaglen yn parhau hyd nes y bydd y rhaglen nesaf wedi ei llunio a’i gosod, ac nid oes dim byd yn atal prosiectau sy’n rhan o raglen gynharach rhag ymddangos mewn rhaglen ddilynol pan fo’r amserlen ar gyfer cwblhau prosiect o’r fath yn gwneud hynny’n ofynnol. Bydd rhai o’r prosiectau unigol i gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith ar bwnc yn rhai hirdymor, a gallai gymryd mwy nag un tymor yn y Cynulliad i’w cwblhau.

30.Mae adran 2(7) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol lunio adroddiadau blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar gynnydd yn erbyn y rhaglen. Gallai adroddiadau o’r fath gael eu gwneud drwy ddatganiad i’r Cynulliad, a fyddai’n galluogi Aelodau’r Cynulliad i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol am yr adroddiad.

31.Mae’n bosibl y bydd angen amrywio rhaglen a nodir ar ddechrau tymor yn y Cynulliad yn ystod y tymor hwnnw. Gellid ychwanegu prosiectau newydd, neu efallai ddileu prosiectau presennol pe gwelid nad oeddent yn addas i’w cydgrynhoi yn sgil diwygio deddfwriaethol cysylltiedig. Mae adran 2(6) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio rhaglen yn ystod tymor y Cynulliad, ond bod rhaid gosod y rhaglen ddiwygiedig honno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac adrodd arni unwaith eto.

1

Government of Wales Act 2006.

2

Law Commissions Act 1965.