RHAN 3YMCHWILIADAU

Cwynion

9Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr Ombwdsmon

(1)

Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(3)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)

bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;

(b)

bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y materion a honnir yn y gŵyn;

(c)

cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys yr wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(d)

cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r awdurdod rhestredig.

(2)

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).

(3)

Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.