RHAN 3YMCHWILIADAU

Cwynion

8Gofynion: cwynion a wneir i’r Ombwdsmon

(1)

Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(2)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)

bod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(b)

cynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(c)

cael ei gwneud i’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater a honnir yn y gŵyn.

(2)

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(3)

Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

(4)

Os caiff cwyn sy’n bodloni gofynion is-adran (1) ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)

esbonio i’r person a wnaeth y gŵyn fod cwyn wedi’i gwneud yn briodol yn unol â’r Ddeddf hon, a goblygiadau gwneud cwyn o’r fath, a

(b)

gofyn i’r person a yw’n awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol.

(5)

Os nad yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol—

(a)

ni chaiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 3(1)(a) i ddechrau ymchwiliad i’r mater a honnir yn y gŵyn;

(b)

caiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 4 i ymchwilio i’r mater a honnir yn y gŵyn.

(6)

Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol, rhaid i’r Ombwdsmon ofyn i’r person a yw am gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

(7)

Os yw’r person yn awyddus i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon wneud y cyfryw drefniadau angenrheidiol i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.