xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu i’r Ddeddf hon fod yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau i bersonau sydd—
(a)yn gyn-ddarparwyr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru;
(b)yn gyn-ddarparwyr annibynnol yng Nghymru;
(c)yn gyn-landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru;
(d)yn gyn-ddarparwyr cartrefi gofal yng Nghymru;
(e)yn gyn-ddarparwyr gofal cartref yng Nghymru;
(f)yn gyn-ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru.
(2)Ystyr “cyn-ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau iechyd teulu o ddisgrifiad penodol, a
(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â darparu gwasanaethau o’r disgrifiad hwnnw (pa un a yw’r person wedi dechrau eu darparu eto yn ddiweddarach ai peidio).
(3)Ystyr “cyn-ddarparwr annibynnol yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau o ddisgrifiad penodol yng Nghymru o dan drefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru,
(b)nad oedd yn gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu yn ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru ar yr adeg honno, ac
(c)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â darparu gwasanaethau o’r disgrifiad hwnnw (pa un a yw’r person wedi dechrau eu darparu eto yn ddiweddarach ai peidio).
(4)Ystyr “cyn-landlord cymdeithasol yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd ar yr adeg berthnasol—
(i)wedi’i gofrestru’n landlord cymdeithasol yn y gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52) (neu yn y gofrestr a gadwyd yn flaenorol o dan yr adran honno gan y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yr Ysgrifennydd Gwladol neu Tai Cymru), neu
(ii)wedi’i gofrestru gyda Tai Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) neu Weinidogion Cymru ac a oedd yn berchen ar anheddau a ariennir yn gyhoeddus neu’n rheoli anheddau o’r fath, a
(b)sydd, ar ôl hynny—
(i)wedi peidio â bod yn gofrestredig fel a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) neu (ii) (pa un a yw’r person wedi cofrestru eto’n ddiweddarach ai peidio), neu
(ii)wedi peidio â bod yn berchen ar anheddau a ariennir yn gyhoeddus neu reoli anheddau o’r fath (pa un a yw’r person wedi gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).
(5)Ystyr “cyn-ddarparwr cartref gofal yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu llety, gofal nyrsio neu ofal o ddisgrifiad penodol mewn cartref gofal yng Nghymru (gweler adran 62), a
(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).
(6)Ystyr “cyn-ddarparwr gofal cartref yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau gofal cartref o ddisgrifiad penodol yng Nghymru, a
(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau darparu’r gwasanaethau hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).
(7)Ystyr “cyn-ddarparwr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru” yw person—
(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol o ddisgrifiad penodol yng Nghymru, a
(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).
(8)Yr “adeg berthnasol” yw adeg y camau gweithredu sy’n destun cwyn o dan y Ddeddf hon.
(9)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan yr adran hon oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n eu cynnwys wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 79 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)