76Swyddogaethau’r CynulliadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff y Cynulliad drwy reolau sefydlog wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan y Ddeddf hon neu oddi tani.
(2)Mae darpariaeth o’r fath yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddirprwyo swyddogaethau i bwyllgor neu is-bwyllgor o’r Cynulliad neu gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath.
(3)Ond ni chaniateir i’r Cynunlliad ddirprwyo swyddogaethau a roddir iddo gan y Ddeddf hon neu oddi tani ar wahân i’r swyddogaethau a roddir gan—
(a)adrannau 73(1), (2) a (3), a
(b)paragraffau 5 a 8(1) o Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 76 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2