75Diddymiadau, arbedion a diwygiadau canlyniadolLL+C
(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) wedi ei diddymu.
(2)Ond—
(a)gweler adran 74 o’r Ddeddf hon (ymchwiliadau a gychwynnir cyn y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 o’r Ddeddf hon i rym);
(b)nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
(i)paragraffau 9(4) ac 11(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (sy’n diwygio Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11)) ac adran 1 o Ddeddf 2005 (i’r graddau y mae’n rhoi effaith i baragraffau 9(4) ac 11(4) o Ddeddf 2005);
(ii)Atodlen 4 i Ddeddf 2005 (sy’n diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)) ac adran 35 o Ddeddf 2005 (sy’n rhoi effaith i Atodlen 4 i Ddeddf 2005);
(iii)Atodlen 6 i Ddeddf 2005 (diwygiadau canlyniadol) ac adran 39(1) o Ddeddf 2005 (sy’n rhoi effaith i Atodlen 6 i Ddeddf 2005);
(iv)y graddau y byddai’n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)) a wneir o dan Ddeddf 2005.
(3)Mae Atodlen 5 (sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i’r Ddeddf hon)yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 75 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
