xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad i fater cyn y dyddiad y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym ac nad yw’r Ombwdsmon wedi penderfynu ar yr ymchwiliad neu nad yw’r mater wedi’i ddatrys erbyn y dyddiad hwnnw.
(2)Ar y dyddiad hwnnw, ac ar ôl hynny, mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr ymchwiliad er gwaethaf darpariaethau eraill y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 74 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2