RHAN 6YMCHWILIADAU: ATODOL
Datgelu
70Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoedd
(1)
Caiff Gweinidog y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon o ran—
(a)
unrhyw ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)
unrhyw ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir felly,
y byddai datgelu’r ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu ddogfennau neu wybodaeth o’r un dosbarth, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.
(2)
Os cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddehongli mewn modd sy’n awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon, ddatgelu i unrhyw berson neu at unrhyw ddiben unrhyw ddogfen neu wybodaeth, neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth, a bennir yn yr hysbysiad.