RHAN 3YMCHWILIADAU

Cwynion

7Pwy sy’n cael cwyno

(1)

Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon o dan y Rhan hon yw—

(a)

aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16;

(b)

person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw;

(c)

os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

(2)

Ystyr “aelod o’r cyhoedd” yw unrhyw berson, heblaw awdurdod rhestredig sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw.

(3)

Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan yr adran hon.