RHAN 6YMCHWILIADAU: ATODOL
Datgelu
69Datgelu gwybodaeth
(1)
Yr wybodaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yw—
(a)
gwybodaeth y mae’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon, yn ei chael i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon—
(i)
wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad,
(ii)
yn ystod ymchwiliad,
(iii)
wrth ddatrys mater o dan adran 6 neu 46, neu
(iv)
mewn cysylltiad â hysbysiad a gafwyd o dan adran 26 neu 57;
(b)
gwybodaeth a gafwyd gan ombwdsmon a grybwyllir yn adran 65(7) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 65 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r ombwdsmyn hynny;
(c)
gwybodaeth a gafwyd gan berson a bennir yn adran 66(2) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 66 neu 67 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r personau hynny a bennir;
(d)
gwybodaeth a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 68 o’r Ddeddf hon neu adran 29A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3);
(e)
gwybodaeth a gafwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhinwedd adran 76 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (datgeliad rhwng y Comisiynydd Gwybodaeth ac ombwdsmyn).
(2)
Ni chaniateir datgelu’r wybodaeth ac eithrio—
(a)
at ddibenion penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad;
(b)
at ddibenion ymchwiliad;
(c)
at ddiben unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)
at ddibenion datrys cwyn o dan adran 6 neu 46;
(e)
at ddibenion datganiad neu adroddiad a wneir mewn perthynas â chŵyn neu ymchwiliad;
(f)
at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn adran 65, 66, 67 neu 68;
F1(g)
at ddibenion achosion llys ar gyfer—
(i)
trosedd o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 (p.28) i 1989 (p.6) F2, neu o dan adrannau 1 i 4 neu 18 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023 (p.32) yr honnir iddi gael ei chyflawni gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;
(ii)
trosedd o dyngu anudon yr honnir iddi gael ei chyflawni yn ystod ymchwiliad;
(h)
at ddibenion ymchwiliad gyda golwg ar gychwyn yr achosion llys a grybwyllir ym mharagraff (g);
(i)
at ddibenion achosion llys o dan adran 20 neu 54;
(j)
yn achos gwybodaeth i’r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau, i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn credu y dylid ei datgelu er budd y cyhoedd;
(k)
yn achos gwybodaeth y mae is-adran (3) yn gymwys iddi, i’r Comisiynydd Gwybodaeth;
(l)
at ddibenion swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Benodau 3 a 4 o Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
(3)
Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon ei bod yn ymwneud â’r canlynol—
(a)
mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth, mewn perthynas ag ef, arfer pŵer a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4), neu
(b)
cyflawni trosedd a grybwyllir yn is-adran (6).
(4)
Y deddfiadau yw—
(a)
adrannau 142 i 154, 160 i 164 neu 174 i 176 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12) (darpariaethau penodol yn ymwneud â gorfodi), neu Atodlen 15 i’r Ddeddf honno;
(b)
adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (argymhellion arfer);
(c)
Rhan 4 o’r Ddeddf honno.
(5)
Mae is-adran (4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r materion y mae’n cyfeirio atynt yn cynnwys mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth arfer, mewn perthynas ag ef, bŵer a roddir gan ddarpariaeth yn Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29), fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd Atodlen 20 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12).
(6)
Y troseddau yw’r rhai o dan—
(a)
darpariaeth yn Neddf Diogelu Data 2018 (p.12) heblaw paragraff 15 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant);
(b)
adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (y drosedd o newid etc cofnodion gyda’r bwriad o atal datgelu).
(7)
Ni chaniateir galw unrhyw berson i roi tystiolaeth mewn unrhyw achos llys (heblaw achosion a grybwyllir yn is-adran (2)) o wybodaeth a gafwyd gan y person hwnnw fel y crybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b).