RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL , GOFAL LLINIAROL A GWASANAETHAU TALIADAU UNIONGYRCHOL

Dehongli

64Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” a “darparwr gofal lliniarol annibynnol”

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)

Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” yw gwasanaeth sydd â’r prif bwrpas o ddarparu gofal lliniarol.

(3)

Ystyr “darparwr gofal lliniarol annibynnol” yw person—

(a)

sydd yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol, a

(b)

nad yw’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

(4)

Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol os ydynt yn cael eu cymryd gan—

(a)

person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,

(b)

person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu

(c)

person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.

(5)

Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—

(a)

os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal lliniarol drwy drefniant gyda pherson arall, a

(b)

os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.