64Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” a “darparwr gofal lliniarol annibynnol”LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” yw gwasanaeth sydd â’r prif bwrpas o ddarparu gofal lliniarol.
(3)Ystyr “darparwr gofal lliniarol annibynnol” yw person—
(a)sydd yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol, a
(b)nad yw’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol os ydynt yn cael eu cymryd gan—
(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu
(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.
(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—
(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal lliniarol drwy drefniant gyda pherson arall, a
(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 64 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2