Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennig

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—

(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.