RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Adroddiadau arbennig
60Adroddiadau arbennig
(1)
Rhaid i adroddiad arbennig—
(a)
nodi’r ffeithiau sy’n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi’r adroddiad arbennig (hynny yw, y ffeithiau sy’n gwneud achos 1, 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys), a
(b)
gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—
(i)
i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a
(ii)
i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.
(2)
Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 1 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad adran 55 ato o dan adran 55(2)(b).
(3)
Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—
(a)
os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;
(b)
at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.
(4)
Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(5)
Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig.
(6)
Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad arbennig a gyhoeddwyd, neu ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(7)
Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad arbennig, neu ran o adroddiad o’r fath, o dan is-adran (6).
(8)
Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan is-adran (2), (3) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—
(a)
enw unrhyw berson heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;
(b)
gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad arbennig.
(9)
Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad arbennig.