RHAN 3YMCHWILIADAU

Pŵer i ymchwilio

6Dulliau amgen o ddatrys materion

(1)

Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)

Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)

Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.