RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Adroddiadau arbennig
59Amgylchiadau lle caiff adroddiadau arbennig eu paratoi
(1)
Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad arbennig o dan adran 60 os yw achos 1, 2 neu 3 yn gymwys.
(2)
Mae achos 1 yn gymwys—
(a)
os yw’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a
(b)
os yw un o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.
(3)
Yr amgylchiadau hynny yw—
(a)
nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 57 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno;
(b)
bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—
(i)
y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu
(ii)
cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny;
(c)
bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod y darparwr, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.
(4)
Yn is-adran (3)(c) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)
y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 57(2)(b), neu
(b)
cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
(5)
Mae achos 2 yn gymwys—
(a)
os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 58 yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno, a
(b)
os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
(6)
Yn is-adran (5)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)
y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 58(2)(b), neu
(b)
cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).
(7)
Mae achos 3 yn gymwys—
(a)
os yw’r mater (y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo) mewn perthynas â darparwr wedi cael ei ddatrys,
(b)
os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,
(c)
os yw’r darparwr wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a
(d)
os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.
(8)
Yn is-adran (7)(d) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
(a)
y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (7)(c), neu
(b)
cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).