Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

57Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.

(2)Rhaid i’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—

(a)am y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad, a

(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw eisoes wedi cymryd y camau gweithredu hynny).

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r darparwr yn cael yr adroddiad, neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 57 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2