RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL

Adroddiadau ar ymchwiliadau

56Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau ar ymchwiliadau

(1)

Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad am ymchwiliad gael ei gyhoeddi⁠—

(a)

mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)

drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)

Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)

darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)

pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)

pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)

Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)

Wrth benderfynu a yw’n briodol i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)

budd y cyhoedd,

(b)

buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)

buddiannau unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.