55Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan y Rhan hon oni bai bod adran 58 yn gymwys.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad mewn perthynas â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—
(a)paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r ymchwiliad (“adroddiad am ymchwiliad”), a
(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau priodol.
(3)Y personau priodol yw—
(a)os bydd yr ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn,
(b)y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef,
(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r mater, a
(d)Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (6).
(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (3)(b) neu (c) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—
(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;
(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.
(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 55 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2