Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

52Gweithdrefn ymchwilioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 43, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef i wneud sylwadau ar yr ymchwiliad, a

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar yr honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 44, rhaid i’r Ombwdsmon⁠—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio i’r—

(i)darparwr yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 43 neu 44 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 44 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn perthynas â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater ac nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad, wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf y cyfeirir atynt yn adran 45.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Caiff yr Ombwdsmon, ymhlith pethau eraill—

(a)gwneud unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, a

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu berson arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)symiau mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)lwfansau i ddigolledu’r person am ei amser.

(13)Caiff yr Ombwdsmon osod amodau ar y taliadau hynny.

(14)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 52 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2