5Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C
(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 4.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.
(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.
(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.
(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—
(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a
(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.
(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.
(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac
(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).
(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.
(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.
(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.
(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.
(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.
(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.
(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)yr Ombwdsmon,
(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac
(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2