RHAN 3YMCHWILIADAU

Pŵer i ymchwilio

5Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hun

(1)

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 4.

(2)

Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.

(3)

Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(4)

Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(5)

O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)

mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)

nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)

Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

(7)

Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)

Gweinidogion Cymru,

(b)

yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)

y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(8)

Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).

(9)

Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(10)

O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.

(11)

Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(12)

Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.

(13)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.

(14)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

(15)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)

yr Ombwdsmon,

(b)

yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)

y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(16)

Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.