RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Ymchwilio i gwynion
49Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr Ombwdsmon
(1)
Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(5)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—
(a)
bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 47 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;
(b)
bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater;
(c)
cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys y cyfryw wybodaeth a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;
(d)
cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r darparwr.
(2)
Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).
(3)
Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.