xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(5)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—
(a)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 47 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;
(b)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater;
(c)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys y cyfryw wybodaeth a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;
(d)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r darparwr.
(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).
(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 49 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2