RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Ymchwilio i gwynion
46Dulliau amgen o ddatrys materion
(1)
Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.
(2)
Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.
(3)
Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.