Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Valid from 23/07/2019

46Dulliau amgen o ddatrys materionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)