41Gweithdrefnau ymdrin â chwynion: hybu arferion gorau etcLL+C
(1)Rhaid i’r Ombwdsmon—
(a)monitro arferion a nodi unrhyw dueddiadau yn yr arferion o ran y ffordd y mae awdurdodau rhestredig yn ymdrin â chwynion,
(b)hybu arferion gorau o ran y ffordd yr ymdrinnir â chwynion, ac
(c)annog cydweithrediad a rhannu arferion gorau ymhlith awdurdodau rhestredig o ran ymdrin â chwynion.
(2)Rhaid i awdurdod rhestredig gydweithredu â’r Ombwdsmon wrth arfer y swyddogaeth yn is-adran (1).
(3)Ond ni chaiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig gydweithredu o dan is-adran (2)—
(a)os nad oes gan yr awdurdod rhestredig y pwerau angenrheidiol (heblaw yn rhinwedd y Ddeddf hon) i gydweithredu o dan is-adran (2);
(b)os yw cydweithredu o dan is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig weithredu yn anghyson ag unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw god, canllaw, cynllun neu ddogfen arall a wneir o dan unrhyw ddeddfiad) sy’n gymwys i’r awdurdod rhestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 41 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2