xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod rhestredig gyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon os yw’r Ombwdsmon yn cyfarwyddo hynny; a rhaid gwneud hynny cyn pen tri mis sy’n cychwyn â’r diwrnod y mae’r awdurdod rhestredig yn cael y cyfarwyddyd gan yr Ombwdsmon neu cyn pen y cyfryw gyfnod arall a gyfarwyddir gan yr Ombwdsmon.
(2)Mae’r terfynau amser yn adrannau 38(3) a 39(5) yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau amser sy’n gymwys mewn cyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1).
(3)Pan fo awdurdod rhestredig wedi cyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon neu fel arall, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r cyfryw wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r weithdrefn honno y caiff yr Ombwdsmon ofyn amdani; a rhaid gwneud hynny cyn pen y cyfryw gyfnod a gyfarwyddir gan yr Ombwdsmon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 40 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2