RHAN 4Awdurdodau rhestredig: gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion

39Datganiadau o beidio â chydymffurfio

(1)

Pan fo gweithdrefn enghreifftiol yn berthnasol i awdurdod rhestredig yn rhinwedd manyleb o dan adran 38(1), caiff yr Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn yr awdurdod ar gyfer ymdrin â chwynion yn cydymffurfio â’r weithdrefn enghreifftiol.

(2)

Pan na fo manyleb o dan adran 38(1) mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, caiff yr Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn yr awdurdod ar gyfer ymdrin â chwynion yn cydymffurfio â’r datganiad o egwyddorion.

(3)

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan is-adran (1) neu (2) ar wefan yr Ombwdsmon.

(4)

Cyn cyhoeddi datganiad o dan is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon hysbysu’r awdurdod rhestredig y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef—

(a)

y bydd yr Ombwdsmon yn gwneud datganiad, gan gynnwys rhesymau’r Ombwdsmon dros wneud y datganiad;

(b)

am unrhyw addasiadau i’r weithdrefn ymdrin â chwynion a fyddai’n arwain at dynnu’r datganiad yn ôl.

(5)

Pan fo datganiad yn cael ei wneud o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod rhestredig adolygu ei weithdrefn ymdrin â chwynion a’i chyflwyno i’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried y rhesymau a roddir o dan is-adran (4)(a) ac unrhyw addasiadau a bennir yn is-adran (4)(b), o fewn dau fis yn dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan is-adran (3).

(6)

Caiff yr Ombwdsmon dynnu’n ôl ddatganiad o beidio â chydymffurfio a wneir o dan is-adran (1) neu (2) ar unrhyw adeg os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n addas.

(7)

Pan fo’r Ombwdsmon yn tynnu’n ôl ddatganiad o dan is-adran (6)—

(a)

rhaid i’r Ombwdsmon ar unwaith—

(i)

hysbysu’r awdurdod rhestredig y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef fod y datganiad wedi ei dynnu’n ôl, gan gynnwys y rhesymau pam y tynnwyd y datganiad yn ôl, a

(ii)

diweddaru’r datganiad a gyhoeddir o dan is-adran (3) i adlewyrchu bod y datganiad wedi ei dynnu’n ôl, gan gynnwys y rhesymau pam y tynnwyd y datganiad yn ôl;

(b)

bydd y ddyletswydd o dan is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys i’r awdurdod rhestredig, i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn codi mewn perthynas â’r datganiad a dynnwyd yn ôl, cyn gynted ag y bo’r Ombwdsmon yn tynnu’r datganiad yn ôl.