Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

36Ymdrin â chwynion: datganiad o egwyddorionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch gweithdrefnau awdurdodau rhestredig ar gyfer ymdrin â chwynion.

(2)Rhaid i awdurdod rhestredig—

(a)cael gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion, a

(b)sicrhau bod unrhyw weithdrefn o’r fath yn cydymffurfio â’r datganiad o egwyddorion.

(3)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r datganiad cyntaf o egwyddorion gerbron y Cynulliad.

(4)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft cyn diwedd y cyfnod o⁠ 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r datganiad o egwyddorion ar ei ffurf ddrafft.

(5)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r datganiad o egwyddorion ar ei ffurf ddrafft.

(6)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pan fo’r Cynulliad wedi’i ddiddymu neu pan fydd toriad o fwy na phedwar diwrnod.

(7)Nid yw is-adran (4) yn atal datganiad drafft newydd o egwyddorion rhag cael ei osod gerbron y Cynulliad.

(8)Cyn gosod datganiad drafft o egwyddorion gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)y cyfryw awdurdodau rhestredig a phersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(9)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r datganiad drafft o egwyddorion sydd i’w osod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (8).

(10)Daw’r datganiad o egwyddorion i rym pan gaiff ei gyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(11)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r datganiad o egwyddorion.

(12)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (11) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r datganiad o egwyddorion, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(13)Mae is-adrannau (4) i (10) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (12) fel y maent yn gymwys i’r datganiad cyntaf o egwyddorion.

(14)Yn yr adran hon ac adrannau 37 i 40, ystyr “gweithdrefnau ymdrin â chwynion” yw gweithdrefnau awdurdodau rhestredig sy’n archwilio cwynion neu’n adolygu penderfyniadau mewn perthynas â chamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig pan fo’r mater o dan sylw yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan Ran 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 36 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2