RHAN 3YMCHWILIADAU
Awdurdodau rhestredig
32Cyfyngiadau ar bŵer i ddiwygio Atodlen 3
(1)
Ni chaniateir i reoliadau o dan adran 31(2) hepgor Llywodraeth Cymru na Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Atodlen 3.
(2)
Caniateir i reoliadau o dan adran 31(2) ychwanegu person at Atodlen 3 dim ond os byddai’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.