Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

32Cyfyngiadau ar bŵer i ddiwygio Atodlen 3LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir i reoliadau o dan adran 31(2) hepgor Llywodraeth Cymru na Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Atodlen 3.

(2)Caniateir i reoliadau o dan adran 31(2) ychwanegu person at Atodlen 3 dim ond os byddai’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 32 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2