RHAN 3YMCHWILIADAU

Awdurdodau rhestredig

31Awdurdodau rhestredig

(1)

Mae’r personau a bennir yn Atodlen 3 yn awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 3 drwy—

(a)

ychwanegu person,

(b)

hepgor person, neu

(c)

newid y disgrifiad o berson.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 ddarparu bod y Ddeddf hon yn gymwys i’r person hwnnw gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(4)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon ac unrhyw bersonau eraill sydd, yn eu barn hwy, yn briodol.

(5)

Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(6)

Mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys cyfyngiadau pellach ar y pŵer yn is-adran (2).