xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3YMCHWILIADAU

Adroddiadau arbennig

29Adroddiadau arbennig: atodol

(1)Caiff yr Ombwdsmon—

(a)cyhoeddi adroddiad arbennig a wnaed o dan adran 28;

(b)rhoi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd neu unrhyw ran ohono i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(2)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad (neu ran o adroddiad) o dan is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i’r awdurdod rhestredig y gwneir adroddiad arbennig ar ei gyfer ad-dalu’r Ombwdsmon am y gost o gyhoeddi adroddiad arbennig os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon.

(4)Os yw adroddiad arbennig—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan adran 28(9) neu (10) neu a gyhoeddir o dan is-adran (1) o’r adran hon, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad arbennig os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw berson a dramgwyddwyd ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

(6)Mae adrannau 24 a 25 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau o dan adran 23) yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad arbennig o dan adran 28 yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad o dan adran 23.