RHAN 3YMCHWILIADAU

Adroddiadau arbennig

28Adroddiadau arbennig

(1)

Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad arbennig”) os yw is-adran (2), (4) neu (6) yn gymwys.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder eu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, ac—

(a)

nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 26 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno,

(b)

bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—

(i)

y camau gweithredu y mae’r awdurdod rhestredig wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu

(ii)

cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny, neu

(c)

bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod yr awdurdod rhestredig, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.

(3)

Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (2)(c) yw—

(a)

y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 26(2)(b), neu

(b)

unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 27(2), a

(b)

os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(5)

Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (4)(b) yw—

(a)

y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 27(2)(b), neu

(b)

unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(6)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo wedi cael ei ddatrys,

(b)

os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,

(c)

os yw’r awdurdod rhestredig wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a

(d)

os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(7)

Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (6)(d) yw—

(a)

y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (6)(c), neu

(b)

unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(8)

Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)

nodi’r ffeithiau sy’n sail i gymhwyso is-adran (2), (4) neu (6), a

(b)

gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)

i unioni neu i atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)

i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(9)

Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig—

(a)

os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (2) yn gymwys, at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad o dan adran 23 ato o dan adran 23(1)(b);

(b)

os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (4) neu (6) yn gymwys—

(i)

at y person a wnaeth y gŵyn, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn;

(ii)

at yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(10)

Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.