Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

24Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw awdurdod rhestredig yn cael copi o adroddiad o dan adran 23(1)(b), rhaid i’r awdurdod sicrhau bod copïau o’r fersiwn honno o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, a

(b)os oes gan yr awdurdod wefan, ar y wefan honno.

(2)Drwy gydol y cyfnod hwnnw o dair wythnos, caiff unrhyw berson—

(a)archwilio copi o’r adroddiad yn y swyddfa neu’r swyddfeydd dan sylw ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(b)gwneud copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig roi copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono i’r person, wedi i’r person dalu swm rhesymol os gofynnir am hynny;

(d)gweld copi o’r adroddiad ar y wefan (os oes un) yn ddi-dâl.

(3)Heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cael copi o’r adroddiad rhaid i’r awdurdod rhestredig sicrhau bod hysbysiad yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru lle digwyddodd y mater sy’n destun yr adroddiad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y dyddiad y bydd y cyfnod o dair wythnos y cyfeirir ato yn is-adran (1) yn cychwyn,

(b)y swyddfa neu’r swyddfeydd lle gellir archwilio copi o’r adroddiad, ac

(c)cyfeiriad gwefan yr awdurdod (os oes ganddo un).

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi cyfarwyddydau i awdurdodau rhestredig ynghylch cyflawni eu swyddogaethau o dan yr adran hon.

(6)Caiff cyfarwyddydau o dan is-adran (5) ymwneud â’r canlynol—

(a)awdurdod rhestredig penodol mewn perthynas ag adroddiad penodol, neu

(b)pob awdurdod rhestredig neu unrhyw un neu ragor ohonynt mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau yn gyffredinol o dan yr adran hon.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn fwriadol yn rhwystro person wrth iddo arfer hawl a roddir gan is-adran (2)(a), (b) neu (d), neu

(b)os yw’r person yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (2)(c).

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff yr Ombwdsmon gyfarwyddo bod is-adrannau (1) i (4) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad penodol.

(10)Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (9), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sy’n briodol, ym marn yr Ombwdsmon.