RHAN 3YMCHWILIADAU

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

22Cyflwyno hysbysiad adennill costau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i gyflwyno hysbysiad adennill costau o dan adran 21.

(2)

Caniateir i hysbysiad adennill costau gael ei gyflwyno i berson—

(a)

drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)

drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)

drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)

pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad adennill costau i’w ddyroddi iddo wedi cytuno yn ysgrifenedig iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)

At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad adennill costau yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)

Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)

At ddibenion is-adrannau (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)

yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)

yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)

Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)

Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.