xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—
(a)pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad sy’n ymwneud ag awdurdod rhestredig perthnasol o dan adran 16(2), a
(b)pan fo’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.
(2)Yr amod yw bod darparwr y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd (“y darparwr”)—
(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu
(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas â’r ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.
(3)Nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran darparwr dim ond am fod y darparwr wedi cymryd camau gweithredu fel y crybwyllir yn adran 18(14)(b).
(4)Caiff yr Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau”) i’r darparwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i’r rhwystr neu’r weithred a grybwyllir yn is-adran (2).
(5)Caiff y costau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) y costau o gael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(6)Rhaid i hysbysiad adennill costau—
(a)nodi ar ba sail y cyflwynir yr hysbysiad, gan gynnwys manylion y rhwystr neu’r weithred sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn bodloni’r amod yn is-adran (2),
(b)pennu’r swm y mae’n rhaid ei dalu i’r Ombwdsmon, ynghyd â manylion y swm hwnnw,
(c)pennu—
(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu, a
(ii)sut y caniateir talu, a
(d)egluro’r hawl i apelio yn is-adran (9).
(7)Rhaid i’r dyddiad talu a bennir o dan is-adran (6)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau yn hwyrach na’r dyddiad y caiff yr hysbysiad adennill costau ei gyflwyno i’r darparwr.
(8)Rhaid i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon y swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (ond mae hyn yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn yr adran hon).
(9)Caiff y darparwr apelio i’r llys ynadon yn erbyn hysbysiad adennill costau cyn pen 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r darparwr; ac os bydd y darparwr yn gwneud hynny, nid yw is-adran (8) yn gymwys (ond gweler is-adrannau (15) ac (16)).
(10)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn bod yr hysbysiad i gael ei ddileu neu ei amrywio, ac yn unol â Deddf Llys Ynadon 1980 (p.43).
(11)At ddiben y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud cwyn i gael ei drin fel gwneud apêl.
(12)Y sail dros apêl yw bod penderfyniad yr Ombwdsmon i ddyroddi’r hysbysiad adennill costau—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol,
(b)yn anghywir mewn cyfraith, neu
(c)yn afresymol am unrhyw reswm.
(13)Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)cadarnhau, dileu neu amrywio’r hysbysiad adennill costau, a
(b)gwneud y cyfryw orchymyn o ran costau sy’n briodol ym marn y llys ynadon.
(14)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn dileu neu’n amrywio’r hysbysiad adennill costau, caiff orchymyn yr Ombwdsmon i ddigolledu’r darparwr am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.
(15)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn cadarnhau’r hysbysiad adennill costau (gydag amrywiad neu heb amrywiad), rhaid i’r darparwr dalu’r swm sy’n daladwy yn rhinwedd yr hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.
(16)Pan fo apêl a wnaed o dan yr adran hon yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r darparwr dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.
(17)Mae swm sy’n daladwy o dan yr adran hon i’w adennill yn ddiannod fel dyled sifil.
(18)Yn yr adran hon, mae i “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” yr ystyr a roddir yn adran 16.