RHAN 3YMCHWILIADAU

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

21Rhwystro a dirmygu: adennill costau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)

pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad sy’n ymwneud ag awdurdod rhestredig perthnasol o dan adran 16(2), a

(b)

pan fo’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

(2)

Yr amod yw bod darparwr y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd (“y darparwr”)—

(a)

heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)

wedi cyflawni gweithred mewn perthynas â’r ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)

Nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran darparwr dim ond am fod y darparwr wedi cymryd camau gweithredu fel y crybwyllir yn adran 18(14)(b).

(4)

Caiff yr Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau”) i’r darparwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i’r rhwystr neu’r weithred a grybwyllir yn is-adran (2).

(5)

Caiff y costau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) y costau o gael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(6)

Rhaid i hysbysiad adennill costau—

(a)

nodi ar ba sail y cyflwynir yr hysbysiad, gan gynnwys manylion y rhwystr neu’r weithred sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn bodloni’r amod yn is-adran (2),

(b)

pennu’r swm y mae’n rhaid ei dalu i’r Ombwdsmon, ynghyd â manylion y swm hwnnw,

(c)

pennu—

(i)

y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu, a

(ii)

sut y caniateir talu, a

(d)

egluro’r hawl i apelio yn is-adran (9).

(7)

Rhaid i’r dyddiad talu a bennir o dan is-adran (6)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau yn hwyrach na’r dyddiad y caiff yr hysbysiad adennill costau ei gyflwyno i’r darparwr.

(8)

Rhaid i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon y swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (ond mae hyn yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn yr adran hon).

(9)

Caiff y darparwr apelio i’r llys ynadon yn erbyn hysbysiad adennill costau cyn pen 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r darparwr; ac os bydd y darparwr yn gwneud hynny, nid yw is-adran (8) yn gymwys (ond gweler is-adrannau (15) ac (16)).

(10)

Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn bod yr hysbysiad i gael ei ddileu neu ei amrywio, ac yn unol â Deddf Llys Ynadon 1980 (p.43).

(11)

At ddiben y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud cwyn i gael ei drin fel gwneud apêl.

(12)

Y sail dros apêl yw bod penderfyniad yr Ombwdsmon i ddyroddi’r hysbysiad adennill costau—

(a)

yn seiliedig ar wall ffeithiol,

(b)

yn anghywir mewn cyfraith, neu

(c)

yn afresymol am unrhyw reswm.

(13)

Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)

cadarnhau, dileu neu amrywio’r hysbysiad adennill costau, a

(b)

gwneud y cyfryw orchymyn o ran costau sy’n briodol ym marn y llys ynadon.

(14)

Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn dileu neu’n amrywio’r hysbysiad adennill costau, caiff orchymyn yr Ombwdsmon i ddigolledu’r darparwr am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

(15)

Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn cadarnhau’r hysbysiad adennill costau (gydag amrywiad neu heb amrywiad), rhaid i’r darparwr dalu’r swm sy’n daladwy yn rhinwedd yr hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(16)

Pan fo apêl a wnaed o dan yr adran hon yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r darparwr dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

(17)

Mae swm sy’n daladwy o dan yr adran hon i’w adennill yn ddiannod fel dyled sifil.

(18)

Yn yr adran hon, mae i “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” yr ystyr a roddir yn adran 16.