20Rhwystro a dirmyguLL+C
(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.
(2)Yr amod yw bod y person—
(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu
(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.
(3)Ond nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person dim ond am fod y person hwnnw wedi cymryd camau gweithredu yn y modd a grybwyllir yn adran 18(14).
(4)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.
(5)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi gallu ei drin pe bai’r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2A. 20 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2