RHAN 3YMCHWILIADAU

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

20Rhwystro a dirmygu

(1)

Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)

Yr amod yw bod y person—

(a)

heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)

wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)

Ond nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person dim ond am fod y person hwnnw wedi cymryd camau gweithredu yn y modd a grybwyllir yn adran 18(14).

(4)

Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(5)

Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi gallu ei drin pe bai’r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.