RHAN 3YMCHWILIADAU
Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth
19Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliadau a gynhelir o dan y Rhan hon.
(2)
At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.
(3)
At ddibenion ymchwiliad, mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—
(a)
presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a
(b)
dangos dogfennau.
(4)
At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.
(5)
Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson at ddibenion ymchwiliad i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.
(6)
Nid oes rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi,pa un a osodwyd y rhwymedigaeth honno gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i fod yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwiliad.
(7)
Nid oes gan y Goron hawl, mewn perthynas ag ymchwiliad, i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.