RHAN 3YMCHWILIADAU

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaeth

18Gweithdrefn ymchwilio

(1)

Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 3, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)

rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wneud sylwadau ar unrhyw honiadau yn y gŵyn;

(b)

rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar unrhyw honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)

Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 4, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)

paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)

cyflwyno’r cynnig ymchwilio—

(i)

i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo, a

(ii)

i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)

Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)

wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 3 neu 4 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)

wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 4 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)

Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)

Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn cysylltiad â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)

rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)

rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)

Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater a phan nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)

rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)

rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad cysylltiedig, i wneud sylwadau ynghylch yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)

Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)

y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)

y modd y bodlonwyd y meini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 5.

(8)

Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)

Yn benodol, caiff yr Ombwdsmon—

(a)

gwneud y cyfryw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol;

(b)

penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu fel arall.

(11)

Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)

Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)

y cyfryw symiau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)

y cyfryw lwfansau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt i ddigolledu’r person am ei amser,

yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt.

(13)

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4.

(14)

Nid yw cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig yn effeithio ar y canlynol—

(a)

dilysrwydd unrhyw gamau gweithredu a gymerodd yr awdurdod rhestredig, neu

(b)

unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod rhestredig i gymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas ag unrhyw fater yr ymchwilir iddo.