RHAN 3YMCHWILIADAU
Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etc
17Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio neu i roi’r gorau i ymchwiliad
(1)
Os yw’r Ombwdsmon—
(a)
yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 3(5), neu
(b)
pan fo’r Omdwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 4(2)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 4(3)(a),
rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad.
(2)
Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at—
(a)
unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a
(b)
yr awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef.
(3)
Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
(4)
Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(5)
Caiff yr Ombwdsmon roi copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4), neu unrhyw ran o ddatganiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.
(6)
Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).
(7)
Os yw datganiad a baratowyd o dan is-adran (1)—
(a)
yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, neu
(b)
yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad,
ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r datganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4), yn ddarostyngedig i is-adran (8).
(8)
Nid yw is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r datganiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.