Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

15Penderfyniadau a wnaed heb gamweinydduLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau penderfyniad a wnaed heb gamweinyddu gan awdurdod rhestredig wrth arfer disgresiwn.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i rinweddau penderfyniad i’r graddau bod y penderfyniad wedi ei wneud o ganlyniad i arfer barn broffesiynol sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn arferadwy mewn cysylltiad â darparu gofal cymdeithasol neu iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 15 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2