RHAN 3YMCHWILIADAU

Materion y caniateir ymchwilio iddynt

15Penderfyniadau a wnaed heb gamweinyddu

(1)

Ni chaniateir i’r Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau penderfyniad a wnaed heb gamweinyddu gan awdurdod rhestredig wrth arfer disgresiwn.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i rinweddau penderfyniad i’r graddau bod y penderfyniad wedi ei wneud o ganlyniad i arfer barn broffesiynol sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn arferadwy mewn cysylltiad â darparu gofal cymdeithasol neu iechyd.