Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

12Eithrio: materion nad ydynt yn ymwneud â ChymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio i fater sy’n codi mewn cysylltiad ag awdurdod rhestredig sy’n cyflawni neu’n darparu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau neu wasanaethau’r awdurdod heblaw o ran Cymru.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys o ran Llywodraeth Cymru.

(3)I’r graddau bod un o swyddogaethau awdurdod rhestredig yn cael ei chyflawni o ran y Gymraeg neu unrhyw agwedd arall ar ddiwylliant Cymru, mae i’w hystyried at ddibenion is-adran (1) yn swyddogaeth a gyflawnir o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 12 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2